Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (43) |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 4, 5 ac 8 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.17.
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3. Ni ofynnwyd cwestiwn 2.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 14.25.
Gofynnwyd y 7 cwestiwn. Cafodd Cwestiynau 1, 2 a 3 eu hateb gan Sandy Mewies AC. Cafodd Cwestiynau 4, 5, 6 a 7 eu hateb gan Peter Black AC.
4. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Cartrefi mewn Parciau (Peter Black)
Dechreuodd yr eitem am 14.38.
NDM4879 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Peter Black gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_010.htm
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.33.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4905 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
32 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu "y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau" a rhoi yn ei le "bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth"
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4905 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.
Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
22 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.31.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4906 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
45 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu ‘y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl hynny sy’n cael cymorth lles’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
13 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:
‘ac yn credu mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy helpu pobl yn ôl i waith’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod bod heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn creu rhwystrau mwy byth i’r rheini sy’n dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau a chael gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4906 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.25.
7. Dadl fer a ohiriwyd ers 25 Ionawr 2012
Dechreuodd yr eitem am 17.30.
NDM4898 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
All Cymru Dalu ei Ffordd ei Hun?
8. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.58.
NDM4904 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):
Treth ar Werth Tir yng Nghymru?
Daeth y cyfarfod i ben am 18.18.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2012